Pam adfer ynni o wastraff?
Ar ôl gostwng, ailddefnyddio, ailgylchu, ystyrir mai adfer ynni o wres yw'r opsiwn mwyaf cynaliadwy ar gyfer trin gwastraff. Mae nifer o fuddion:
- Mae'n dargyfeirio'r swm mwyaf posibl o wastraff o safle tirlenwi.
- Mae'n trin gwastraff na fedrir ei ailgylchu neu ei gompostio a anfonir i safle tirlenwi ar hyn o bryd.
- Mae'n gostwng faint o fethan a gaiff ei ollwng o safle tirlenwi (mae methan fwy na 20 gwaith yn fwy effeithlon ar gadw gwres o fewn yr awyrgylch na carbon deuocsid).
- Mae'n cynhyrchu ynni ar wedd trydan a gwres.
- Mae'n rhoi cyflenwad ynni cynhenid - gan ychwanegu at sicrwydd ynni y Deyrnas Unedig.
- Mae'n cynhyrchu ynni adnewyddadwy a charbon isel - gan gyfrannu at dargedau ynni adnewyddadwy y Deyrnas Unedig.