Faint o draffig HGV ychwanegol fydd y safle'n ei gynhyrchu?
Bydd yr Asesiad o'r Effaith Amgylcheddol yn archwilio symudiadau cerbydau nwyddau trwm wrth fynedfa'r safle ar yr A458, ynghyd â'r rhwydwaith ffyrdd presennol yn gyfagos at y safle yn nhermau capasiti (ar y cyffyrdd a'r ffyrdd cyswllt) a diogelwch. Cynhelir yr asesiad traffig yn unol â chanllawiau cydnabyddedig a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru, a bydd yn ystyried y camau adeiladu a gweithredu. Lle'n briodol cynigir mesurau i:
- leihau effaith oedi ar y rhwydwaith, ac ar gyffyrdd;
- lleihau ymyrryd ar y rhwydwaith trafnidiaeth; a
- gostwng effaith ar ddefnyddiau tir cyfagos a thirfeddianwyr.