Ffoniwch ni ar: 0800 169 5290

A oes gennyf i lais yn hyn?

Oes. Pan fydd cwmni'n gwneud cais am ganiatâd cynllunio i adeiladu safle, mae'n rhaid i'r awdurdod lleol ganiatáu sylwadau gan y cyhoedd ac eraill â diddordeb. Mae'n rhaid i awdurdodau lleol roi cyhoeddusrwydd lleol i'r cais mewn rhyw ffurf. Fel arfer gwneir hyn drwy hysbysiad cyhoeddus ar y safle arfaethedig neu hysbyseb yn y papur lleol gyda gwybodaeth yn gyffredinol ar gael yn neuadd y dref leol, yn ogystal â chyhoeddi ar eu gwefannau.

Pan wnawn gais am Ganiatâd Amgylcheddol bydd y rheoleiddiwr, Cyfoeth Naturiol Cymru,  hefyd yn ymgynghori gyda'r cyhoedd. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn hysbysebu ceisiadau am drwydded yn ardal leol y cais yn ogystal â chyhoeddi ymgynghoriadau byw ar lein yn

http://naturalresourceswales.gov.uk/apply-buy-report/regulate-you/permit-publications/?lang=en#.UfejjdLIFTg

Rhoddir ystyriaeth i bob ymateb i'r ymgynghoriad wrth wneud penderfyniad.

CWESTIYNAU CYFFREDIN