Pam na allwn barhau i dirlenwi?
Nid yw tirlenwi yn opsiwn cynaliadwy ar gyfer gwaredu â gwastraff. Mae tirlenwi yn cynhyrchu methan - un o'r nwyon tŷ gwydr cryfaf yn cyfrannu at newid yn yr hinsawdd. Mae methan 20 gwaith yn fwy niweidiol i'r amgylchedd na carbon deuocsid, gyda thirlenwi yn cynhyrchu hyd at 40% o allyriadau methan y Deyrnas Unedig.
Mae'r Undeb Ewropeaidd a Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi gostwng targedau i ostwng tirlenwi, gyda chosbau ariannol ar awdurdodau lleol sy'n methu cyrraedd targedau arallgyfeirio ac ailgylchu. Mae'r Llywodraeth hefyd wedi gweithredu treth tirlenwi i annog dargyfeirio gwastraff o safleoedd tirlenwi.
Mae gofod tirlenwi ar draws y Deyrnas Unedig yn dod i ben ac felly nid yw'n ddatrysiad hirdymor ar gyfer trin gwastraff.