Ffoniwch ni ar: 0800 169 5290

A yw safleoedd CAY yn well i'r amgylchedd na safleoedd tirlenwi? Beth yw rôl safleoedd CAY mewn newid yn yr hinsawdd?

Caiff Cyfleusterau Adfer Ynni eu cydnabod mewn strategaethau gwastraff cenedlaethol fel bod yn ddatrysiad cynaliadwy, yn wahanol i gladdu gwastraff mewn safle tirlenwi. Pan gaiff gwastraff ei gladdu mewn safleoedd tirlenwi mae'n pydru ac yn cynhyrchu methan, nwy tŷ gwydr cryf iawn, sydd 20 gwaith cryfach na CO2. Mae safleoedd CAY yn gostwng allyriadau nwyon tŷ gwydr oherwydd nad ydynt yn creu'r methan y mae safleoedd tirlenwi yn ei gynhyrchu, yn ogystal â gwrthbwyso'r effaith i losgi tanwyddau ffosil mewn gorsafoedd pŵer confensiynol.

CWESTIYNAU CYFFREDIN