Ffoniwch ni ar: 0800 169 5290

Pam y dylem gael y mathau hyn o gyfleusterau?

Mae pryderon parhaus am newid yn yr hinsawdd a sicrwydd ynni yn golygu fod Llywodraeth y Deyrnas Unedig a Llywodraeth Cymru yn ymroddedig i gynhyrchu mwy o drydan o ffynonellau adnewyddadwy a carbon isel, gyda tharged i ostwng allyriadau carbon gan o leiaf 80% erbyn 2050.

Mae gwastraff yn cyfrannu 4.7% o allyriadau uniongyrchol nwyon tŷ gwydr yng Nghymru drwy safleoedd tirlenwi. Yn ogystal â dargyfeirio gwastraff o safleoedd tirlenwi, gan helpu i ostwng allyriadau carbon, bydd yr CAY hefyd yn cynhyrchu ynni adnewyddadwy a carbon isel, gan gyfrannu at dargedau strategaeth Cymru ar newid yn yr hinsawdd.

Mae prif ddogfen strategaeth Llywodraeth Cymru 'Tuag at Gymru Ddiwastraff' yn nodi'r fframwaith hirdymor ar gyfer effeithiolrwydd adnoddau a rheoli gwastraff yng Nghymru.

Mae Cymru eisoes wedi gwneud camau enfawr ymlaen gydag ailgylchu ac atal gwastraff:

  • ailgylchu 53.3% o wastraff yn 2013-14
  • gostwng y gwastraff a aiff i safle tirlenwi gan 37%
  • gostwng allyriadau nwyon tŷ gwydr o wastraff gan 6% ers 2009
  • cynhyrchu 46MW o drydan a adferwyd o 400,000 tunnell fetrig o wastraff gweddilliol

Ond mae mwy i'w wneud. Gellir hefyd adfer gwastraff gweddilliol, na fedrir ei ailgylchu neu ei gompostio, i gynhyrchu trydan; bydd yr CAY hefyd yn dargyfeirio'r gwastraff gweddill hwnnw o safleoedd tirlenwi gan ostwng allyriadau nwyon tŷ gwydr ymhellach a chyfrannu at dargedau Cymru.

Mae Tuag at Ddyfodol Diwastraff, polisi gwastraff Cymru, ar gael yn

http://wales.gov.uk/topics/environmentcountryside/epq/waste_recycling/publication/towardszero/?lang=cy

Mae manylion pellach ar bolisi Llywodraeth Cymru ar drin gwastraff gweddilliol ar gael yng Nghynllun Sector 'Casgliadau, Seilwaith a Marchnadoedd' yn

http://wales.gov.uk/topics/environmentcountryside/epq/waste_recycling/publication/cimsectorplan/?lang=cy

CWESTIYNAU CYFFREDIN