Ffoniwch ni ar: 0800 169 5290

Beth yw Cyfleuster Adfer Ynni (CAY)?

Mae CAY Chwarel Buttington yn gyfleuster modern o'r math diweddaraf fydd yn adfer ynni o wastraff gweddilliol sy'n deillio o Bowys ac ardaloedd cyfagos, gan felly ei gadw ymaith o safleoedd tirlenwi. Bydd yr CAY yn cynhyrchu swm cyfwerth o drydan ar gyfer tua 8,000 o gartrefi. Bydd hefyd yn cyflenwi gwres a grëwyd yn ystod y broses i ddiwydiant lleol neu ddefnyddwyr addas eraill.

Byddai'r CAY yn rhoi datrysiad effeithiol, amgylcheddol gyfrifol ac ymarferol ar gyfer gwastraff na fedrir ei ailgylchu. Byddai ganddo ran bwysig mewn strategaeth gwastraff gyffredinol sy'n anelu i ostwng faint o wastraff a gynhyrchir, ailgylchu cymaint ag sy'n bosibl a gwneud defnydd da o unrhyw wastraff sydd ar ôl.

CWESTIYNAU CYFFREDIN