Ffoniwch ni ar: 0800 169 5290

Pa allyriadau gaiff eu cynhyrchu?

Cynhelir asesiad manwl o ansawdd aer yn cynnwys argymell mesurau lliniaru ar gyfer lleihau unrhyw effeithiau gweddilliol ar ansawdd aer h.y. y lleoliad gorau ar gyfer y stac/penderfynu ar uchder.

Caiff cyfleusterau adfer ynni modern fel yr un a gynllunnir ei fonitro'n fanwl gan Cyfoeth Naturiol Cymru ac maent yn cydymffurfio gyda'r holl ddeddfwriaeth berthnasol yn cynnwys rheoli allyriadau. Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru (gynt yr Asiantaeth Diogelu Iechyd) yn credu nad yw cyfleusterau modern, a weithredir yn dda yn risg i iechyd dynol.

(Gweler www.hpa.org.uk/web/HPAwebFile/HPAweb_C/1251473372218)

Mae gwybodaeth fwy manwl ar ynni o wastraff ar iechyd yn:

www.hpa.org.uk/ProductsServices/ChemicalsPoisons/IntegratedPollutionPreventionControlIPPC/ippcIncineration/

Mae'r Asiantaeth Safonau Bwyd (FSA) yn asesu'r risgiau i ddiogelwch y gadwyn bwyd. Ar ôl cynnal asesiadau manwl o geisiadau am safleoedd ynni o wastraff fel rhan o'r rôl reoleiddiol yma dros gyfnod o tua 10 mlynedd, daeth yr FSA i'r casgliad mai effaith ddibwys  yn gyffredinol ar lefel llygryddion mewn bwyd  a gaiff safleoedd a gaiff eu rhedeg yn gywir sy'n cydymffurfio â gofynion y Gyfarwyddeb Allyriadau Diwydiannol (EOS).

CWESTIYNAU CYFFREDIN