Ffoniwch ni ar: 0800 169 5290

Pam y dylem gael CAY?

Mae'n bwysig ein bod yn gwneud popeth a allwn i atal gwastraff ac ailgylchu cymaint ag sy'n bosibl o'r gwastraff a gaiff ei greu. Dylid defnyddio'r gwastraff gweddilliol sydd ar ôl yn dilyn ailgylchu er mwyn adfer ynni. Dyma'r hierarchaeth gwastraff sy'n rhan o bolisi gwastraff Llywodraeth Cymru, h.y.:

  • atal;
  • paratoi ar gyfer ailddefnyddio;
  • ailgylchu;
  • adfer arall, e.e. adfer ynni; a
  • gwaredu.

Bydd yr CAY yn defnyddio gwastraff fel tanwydd i gynhyrchu gwres a phŵer (trydan) carbon isel gan helpu i ostwng allyriadau nwyon tŷ gwydr drwy wrthbwyso ffynonellau eraill sy'n cynhyrchu CO2.

Bydd yr CAY yn dargyfeirio hyd at 100,000 tunnell fetrig o wastraff na fedrir ei ailgylchu (gweddilliol) a gynhyrchir yn lleol ymaith o safleoedd tirlenwi, gan ostwng allyriadau methan, nwy tŷ gwydr sydd 20 gwaith cryfach na CO2.

Gallai'r CAY alluogi awdurdodau lleol i gael mynediad i gymorthdaliadau Llywodraeth Cymru ar gyfer ynni adnewyddadwy a gostwng allyriadau carbon, gan ryddhau cyllid a fyddai heddiw'n cael ei ddefnyddio ar gyfer gwasanaethau gwastraff, i fod ar gael i helpu tuag at wasanaethau gwerthfawr eraill a ddarperir gan gynghorau lleol.

Bydd yr CAY yn cyfrannu tuag at 'Tuag at Gymru Ddiwastraff', prif strategaeth gwastraff Llywodraeth Cymru.

Bydd yr CAY yn gweithredu fel datblygiad angor ar gyfer parc eco-fusnes fel rhan o gynlluniau datblygu ehangach a gynigir gan y perchnogion chwarel.

Bydd yr CAY yn cynhyrchu tua 9MW o b?er i'r grid cenedlaethol a/neu fusnesau lleol, digon i roi p?er i tua 9,000 o gartrefi.

Bydd y datblygiad yn ei gwneud yn bosibl parhau i ddefnyddio ased ddiwydiannol leol. Byddai'n darparu tua 100-150 swydd yn ystod y cyfnod adeiladu dwy flynedd a 30 o swyddi parhaol unwaith y bydd yr CAY yn weithredol. Yn ogystal yn ystod y cyfnod gweithredu bydd cyfleoedd ar gyfer cyflogaeth anuniongyrchol (cynnal a chadw safle, cludiant, glanhau, cynnal a chadw tirwedd ac yn y blaen) ac mae busnesau lleol yn debygol o fwynhau masnach a buddion economaidd ychwanegol yn ystod y cyfnod adeiladu a hefyd y cyfnod gweithredu.

Bydd Broad Energy (Wales) Limited yn rhoi anogaeth gadarnhaol i gyflogi pobl leol.

Bydd Broad Energy (Wales) yn creu ardal bioamrywiaeth o amgylch y safle daearegol presennol o ddiddordeb gwyddonol arbennig (SSSI), sydd o fewn y chwarel.

CWESTIYNAU CYFFREDIN