Ffoniwch ni ar: 0800 169 5290

Cais Cynllunio

Unwaith y bydd wedi'i gwblhau, cyflwynir y cais cynllunio i Gyngor Sir Powys iddynt ei ystyried, yn gynnar yn 2017. Caiff y cais ei gefnogi gan amrywiaeth o ddogfennau yn cynnwys Datganiad Amgylcheddol, fydd yn rhoi adroddiad llawn ar ganfyddiadau'r Asesiad o'r Effaith Amgylcheddol.

Bydd adborth o'n rhaglen ymgynghori cyhoeddus yn helpu i hysbysu'r dyluniad terfynol. Unwaith y cyflwynir y cais cynllunio bydd cyfnod ar gyfer ystyried ac ymgynghoriad gan yr awdurdod cynllunio lleol. Gofynnir i nifer o gyrff statudol am eu sylwadau, megis Cyfoeth Naturiol Cymru a rhanddeiliaid lleol â diddordeb. Cyngor Sir Powys fydd yn penderfynu ar y cais cynllunio.