Ffoniwch ni ar: 0800 169 5290

Trwydded Amgylcheddol

Bydd angen i'r CAY gael trwydded amgylcheddol gan Cyfoeth Naturiol Cymru (gynt Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru). Mae'r drwydded yn sicrhau y caiff y safle ei weithredu mewn ffordd sy'n diwallu'r meini prawf amgylcheddol sydd eu hangen gan Cyfoeth Naturiol Cymru. Ei brif ffocws yw nad yw gweithgareddau ar y safle yn achosi unrhyw allyriadau sy'n uwch na'r lefelau diogel a osodir gan Cyfoeth Naturiol Cymru.

Bydd Cyfoeth Naturiol Cymru yn cynnal asesiad manwl o'r dogfennau cais, i'w bodloni eu hunain y bydd y safle yn gweithredu yn unol â Rheoliadau Caniatâd Amgylcheddol (Lloegr a Chymru) 2010 fel y'i diwygiwyd.

Bydd Cyfoeth Naturiol Cymru yn ymgynghori gydag unrhyw gyrff cyhoeddus eraill y barnant sydd â diddordeb yn y cais. Gallai hyn gynnwys yr awdurdodau cynllunio lleol a'r Asiantaeth Diogelu Iechyd Byddant hefyd yn hysbysebu'r cais gan nodi lle y gellir ei weld a gwahodd sylwadau gan y cyhoedd.

Unwaith eu bod yn fodlon y bydd gan y cyfleuster y mesurau priodol i ddiogelu'r amgylchedd ac y caiff ei redeg gan weithredydd cymwys, bydd Cyfoeth Naturiol Cymru yn cyhoeddi trwydded gyda nifer o amodau yn ymwneud â gweithrediad cywir y safle.